Geraint Thomas yn arwain y Volta ao Algarve

Geraint Thomas Image copyright Getty Images

Y Cymro Geraint Thomas sy'n arwain y Volta ao Algarve ar ôl gorffen yn yr ail safle yn ail gymal y ras.

Ei gyd-seiclwr gyda Team Sky, Michal Kwiatkowski, wnaeth ennill y cymal, gyda Bauke Mollema o dîm Trek-Segafredo yn drydydd.

Dyma yw ras gyntaf y tymor i'r seiclwr 31 oed, a bydd yn cael ei chynnal dros bum diwrnod.

Mae wedi ennill y ras hon ar y ddau achlysur diwethaf iddo gystadlu ynddi, yn 2015 a 2016.

Doedd y gŵr o Gaerdydd ddim yn cystadlu y llynedd wrth iddo baratoi am y Giro d'Italia.

Pynciau Cysylltiedig