Cwpan FA Lloegr: Sheffield Wednesday 0-0 Abertawe

Tammy Abraham a David Jones Image copyright Getty Images

Di-sgôr oedd hi rhwng Sheffield Wednesday ac Abertawe ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr brynhawn dydd Sadwrn.

Wnaeth yr un o'r ddau dîm ddigon i ennill y gêm.

Daeth y cyfle gorau yn yr hanner cyntaf gyda pheniad Mike van der Hoorn. Ond llwyddodd y golwr Cameron Dawson i arbed y bêl rhag mynd i gefn y rhwyd.

Cafodd yr Elyrch ddihangfa hwyr pan ergydiodd Atdhe Nuhiu ychydig cyn diwedd yr ail hanner.

Mae'r canlyniad yn golygu y bydd yn rhaid i Abertawe ail chwarae.