Cyhoeddi enw dyn wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro

Mark Waite Image copyright Heddlu Dyfed Powys

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng lori laeth a beic modur sgwter ar ffordd yr A4076 yn Hwlffordd, Sir Benfro am 16:30 brynhawn Iau.

Bu farw Mark Waite, 43, o Ddoc Penfro oedd yn gyrru'r sgwter ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Dywedodd PC Rob Muckle o Heddlu Dyfed-Powys: "Rydym yn gwybod fod y ddau gerbyd yn teithio i gyfeiriad canol Hwlffordd o gyfeiriad cylchfan Scotchwell.

"Rydym yn gofyn i unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd yma ar yr adeg honno, neu a welodd y gwrthdrawiad i ffonio Uned Blismona Ffyrdd Sir Benfro ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 228."

Straeon perthnasol