Ifor Glyn ar ei ffordd adref i dderbyn triniaeth feddygol

Ifor Glyn Image copyright Llun teulu

Mae Cymro sydd wedi bod yn "ddifrifol wael" yn yr ysbyty yn Bangkok ar ei ffordd adref.

Cafodd Ifor Glyn, sydd yn Gyfarwyddwr ar Ganolfan Gofalwyr Abertawe, pneumonia tra roedd ar ei wyliau yng Ngwlad Thai ym mis Ionawr ac fe gafodd ymgyrch ei gychwyn i ddod ag ef yn ôl i Brydain.

Fe lwyddodd teulu a ffrindiau i godi £9,700 o'r targed ariannol o £40,000 ar ôl sefydlu tudalen apêl.

Ond erbyn hyn mae ei gwmni yswiriant wedi cytuno i dalu ei gostau meddai ei ffrind Gwilym Euros.

Oherwydd hynny fyddan nhw ddim yn derbyn unrhyw roddion pellach meddai.

Dywedodd ar ei dudalen Facebook ei fod yn disgwyl i Mr Glyn a'i deulu gyrraedd Prydain nos Sadwrn ac y bydd wedyn yn parhau a'i driniaeth.

"Mae'n ymddangos oherwydd eich caredigrwydd chi a'r sylw yn y wasg tuag at yr ymgyrch yma, mi ildiodd y Cwmni Yswiriant a talu costau ysbyty Ifor, gyrru nyrs o Brydain i'w asesu ac i deithio yn ôl i Brydain gydag o a'r teulu fel da ni yn siarad...," meddai.

"Ein gobaith rŵan ydi y gaiff Ifor a'r teulu siwrne ddiogel yn ôl i Brydain dros yr oriau nesaf ac y caiff o y gofal gorau posib er mwyn gwella wedi iddo gyrraedd," ychwanegodd ar ei dudalen Facebook.

Straeon perthnasol