Cerddwr yn marw wedi iddo gwympo yn Eryri

Snowdonia Image copyright Tîm Achub Mynydd Llanberis
Image caption Mae timau achub wedi cael eu galw i sawl digwyddiad yn Eryri dros y penwythnos

Mae cerddwr wedi marw wedi iddo gwympo dros 800 troedfedd i lawr dibyn serth yn Eryri.

Credir i'r dyn lithro yn y rhew a'r eira cyn disgyn oddi ar Clogwyn Coch.

Cafodd gwirfoddolwyr o Dîm Achub Mynydd Llanberis a hofrennydd eu galw ddydd Sadwrn am 12:35.

Dywedodd llefarydd ar ran y tîm bod Llwybr Llanberis, sy'n boblogaidd gan gerddwyr yn yr haf, yn llecyn serth lle mae llawer o eira.

Maent yn rhybuddio cerddwyr i gario offer megis cramponau a bwyelli rhew os yn dringo i fannau uchel.