Geraint Thomas yn ail yn y Volta ao Algarve

Chris Froome a Geraint Thomas Image copyright Getty Images

Roedd yna siom i'r Cymro Geraint Thomas yng nghymal olaf y Volta ao Algarve ym Mhortiwgal.

Fe fethodd â chipio'r Volta ao Algarve er bod ganddo fantais o 19 eiliad ar ddechrau'r cymal olaf.

Ei gydseiclwr Team Sky, Michal Kwiatkowski, oedd yn fuddugol gyda Thomas yn ail.

Ar ddechrau'r ras roedd y Pwyliad Michal Kwiatkowski un safle y tu ôl i Thomas, enillodd y ras yn 2015 a 2016.

Dyma'r eilwaith i Kwiatkowski ennill y ras - fe hefyd oedd yn fuddugol yn 2014.