Moore a McNeill yn chweched yn y bobsled wedi dwy ras

Mica Moore a Mica McNeill Image copyright Getty Images
Image caption Mica Moore sy'n gwthio'r sled o'r cefn ar ddechrau'r ras, a Mica McNeill sy'n llywio

Mae'r Gymraes Mica Moore a'i chyd-rasiwr Mica McNeill yn y chweched safle yng nghystadleuaeth y bobsled yn dilyn dwy ras yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.

Fe ddaethon nhw'n chweched yn y ras gyntaf ac yn seithfed yn yr ail ras, gan olygu eu bod yn y chweched safle ar gyfanswm amser.

Dau dîm o'r Almaen a thîm o'r Unol Daleithiau sydd yn safleoedd y medalau ar hyn o bryd.

Ond mae hi'n agos o ran amseroedd, gyda thîm Prydain 0.16 eiliad yn unig i ffwrdd o'r fedal efydd.

Roedd dwy ras yn cael eu cynnal ddydd Mawrth, a bydd y ddwy ras olaf yn cael eu cynnal ddydd Mercher.

Y pâr sydd â'r cyfanswm amser cyflymaf ar ôl y pedair ras fydd yn ennill y fedal aur.

Mae Moore yn gobeithio dilyn llwyddiant yr unig athletwr arall o Gymru i gymryd rhan yn PyeongChang, Laura Deas, lwyddodd i ennill medal efydd yn y sled sgerbwd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol