Shane Williams wedi'i gyhuddo o fod yn rhan o ffrwgwd

Shane Williams Image copyright Getty Images
Image caption Mae Shane Williams nawr yn gweithio fel sylwebydd

Bydd cyn-seren rygbi Cymru, Shane Williams, yn ymddangos yn y llys fis nesaf ar ôl cael ei gyhuddo o fod yn rhan o ffrwgwd.

Mae'r asgellwr yn un o chwe dyn sy'n wynebu'r cyhuddiad, sy'n ymwneud â digwyddiad honedig yng nghanol Caerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod "chwe dyn wedi cael eu cyhuddo o gymryd rhan mewn ffrwgwd, yn ymwneud â digwyddiad honedig yng nghanol Caerdydd ar 2 Rhagfyr 2017".

Bydd y chwech yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 9 Mawrth.

Pynciau Cysylltiedig