Chwe Gwlad Merched: Iwerddon 35-12 Cymru

Iwerddon v Cymru Image copyright Inpho

Fe wnaeth tîm rygbi merched Cymru golli eu hail gêm yn olynol brynhawn Sul, wrth i Iwerddon ennill gyda phwynt bonws yn Donnybrook.

Y Gwyddelod ddechreuodd orau, gyda Leah Lyons a Claire Molloy yn croesi am geisiau yn yr hanner cyntaf.

Cafodd y Cymry ddechrau gwell i'r ail hanner, wrth i Amy Evans a Sioned Harries sgorio o fewn munudau i'w gilydd.

Er i'r prop Lindsay Peat gael ei gyrru i'r gell gosb, fe lwyddodd Iwerddon i daro 'nôl ychydig funudau'n ddiweddarach gyda chais gan Sene Naoupu.

Sgoriodd yr eilydd Hannah Tyrrell gais yn y 10 munud olaf i sicrhau'r pwynt bonws i'r Gwyddelod, cyn i Molloy ychwanegu ei hail gais o'r gêm yn y munud olaf.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol