Cerbyd yn disgyn lawr ar draffordd yr M48 ger Cas-gwent

Damwain M48 Image copyright Matt Morris
Image caption Disgynnodd y cerbyd ar ffordd yr M48 i gyfeiriad y gorllewin

Mae dyn wedi dioddef anafiadau i'w gefn wedi i'w gerbyd wyro oddi ar ffordd a disgyn ar draffordd yr M48.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r digwyddiad ger Cas-gwent am 13:43 yn dilyn adroddiadau fod cerbyd wedi glanio ar y draffordd.

Fe wnaeth criwiau o Gas-gwent a Maendy ddefnyddio offer arbenigol i dorri'r dyn yn rhydd, ac fe gafodd driniaeth gan yr ambiwlans awyr am anafiadau i'w belfis a'i asgwrn cefn.

Dyw hi ddim yn ymddangos fel bod y cerbyd wedi taro unrhyw gerbyd arall wrth ddisgyn ar y draffordd.

Mae'r M48 wedi ei chau rhwng cyffordd 1 a 2 am y tro.