Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â mesur pwerau Brexit

Baner yr UE ar do'r Senedd

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i symud ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer mesur maen nhw'n ei ddweud fyddai'n amddiffyn pwerau Cymru wedi Brexit.

Bydd gweinidogion Cymru'n gofyn i ACau am gael cyflwyno Mesur Dilyniant fel mesur brys, er mwyn trosglwyddo deddfau'r UE mewn meysydd datganoledig i ddeddfwriaeth Cymru.

Maen nhw'n dadlau bod y cam yn angenrheidiol os na fydd modd datrys anghytundeb gyda Llywodraeth y DU dros y Bil Ymadael.

Ar yr un pryd, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi mesur dilyniant eu hunain.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo gwneud newidiadau ac wedi mynnu nad oes angen deddfwriaeth wahanol ar Gymru.

Parchu datganoli

Dan y Bil Ymadael arfaethedig, fe fyddai San Steffan yn dal gafael ar nifer o bwerau'r UE mewn meysydd datganoledig, yn groes i ddymuniad llywodraethau Cymru a'r Alban.

Mae hynny er gwaethaf addewid gan Lywodraeth y DU y bydd newidiadau i'r ddeddfwriaeth sy'n golygu y bydd y rhan fwyaf o'r pwerau yn cael eu datganoli - cynnig sydd heb ei dderbyn gan lywodraethau Bae Caerdydd a Chaeredin.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai caniatáu i weinidogion San Steffan reoli polisïau meysydd sydd wedi'u datganoli yn "annerbyniol".

"Fe fydd penderfyniadau sy'n cael eu cymryd nawr yn effeithio ar Gymru am ddegawdau i ddod," dywedodd.

"Mae'n hanfodol fod y penderfyniadau yma yn cael eu gwneud mewn ffordd sy'n parchu datganoli.

"Rydym yn parhau'n bartneriaid cadarnhaol mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â newidiadau i Fil Ymadael y DU - a dyma rydym yn dal i'w ddymuno.

"Fodd bynnag, rydym yn rhedeg allan o amser ac rydym wedi datblygu ein Mesur i baratoi ar gyfer sefyllfa lle nad yw Llywodraeth y DU yn addasu'r Bil Ymadael yn ddigonol er mwyn parchu'r setliad datganoli."

Dan ddeddfwriaeth bresennol Brexit - sy'n mynd trwy'r Senedd yn San Steffan - fe fydd mwyafrif y pwerau sydd wedi'u datganoli, ond sydd hefyd yn dod dan ddeddfwriaeth yr UE, yn cael eu trosglwyddo dros dro i San Steffan o Frwsel yn dilyn Brexit.

Mae hynny wedi cael ei ddisgrifio fel ymosodiad ar ddatganoli gan lywodraethau Cymru a'r Alban.

Image caption Mae cynnig diweddaraf Llywodraeth y DU yn cryfhau a gwella'r setliad daganoli, medd David Lidington

Mewn araith yn Sir Y Fflint ddydd Llun, fe ddywedodd y gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet y DU, David Lidington, fod y cynlluniau'n cynnig "newidiadau sylweddol" er mwyn ceisio cyrraedd cytundeb.

Ychwanegodd eu bod nid yn unig yn "parchu'r setliadau datganoli ond yn eu cryfhau a'u gwella".

Ond fe ddywedodd Mr Jones bod angen mwy na "geiriau cynnes" ac nad oedd y cynlluniau yn mynd yn ddigon pell.

Mae'r pwerau datganoledig sydd hefyd yn dod dan ddeddfwriaeth yr UE yn cynnwys cymorthdaliadau amaethyddol a labelu bwyd.

Llefarydd Brexit Plaid Cymru, Steffan Lewis, wnaeth gynnig y Mesur Dilyniant ac fe gafodd gefnogaeth unfrydol gan ACau yn y Senedd.

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, James Williams:

Mae swyddogion a gwleidyddion Llywodraeth Cymru yn pwysleisio nad ydyn nhw wir eisiau cyflwyno'r Mesur Dilyniant hwn.

Polisi yswiriant yw e sydd wedi dod o'r boced cefn, ac os ydyn nhw'n dod i gytundeb gyda San Steffan ar y Mesur Ymadael wedyn fe fyddan nhw'n ddigon hapus i ildio'r polisi.

Yr wythnos nesaf, bydd gweinidogion o San Steffan, Caerdydd a Chaeredin yn cyfarfod yn Llundain unwaith eto i geisio dod i gytundeb.

Ond mae ACau yn debygol o ddechrau proses y Mesur Dilyniant mewn pleidlais ddydd Mawrth nesaf, ac felly tanio ras ddeddfwriaethol rhwng Bae Caerdydd a San Steffan.

Os yw'r Cynulliad yn llwyddo gyda'r Mesur Dilyniant, y disgwyliad yn y byd academaidd yw y bydd y ddwy lywodraeth yn gorfod dychwelyd i'r Goruchaf Lys.

Image caption Mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud fod cyflwyno'r mesur yn disgyn o fewn grym y Cynulliad

Dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas mai'r bwriad oedd "deddfu i amddiffyn democratiaeth yng Nghymru".

Cafodd y mesur hefyd ei gefnogi gan arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton: "Wrth atal trosglwyddo pwerau yn uniongyrchol o Frwsel i Gaerdydd, mae Theresa May wedi rhoi arf i wrthwynebwyr Brexit."

Ond mynnodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Does dim angen y ddeddfwriaeth yma sydd wedi ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.

"Byddai'n well petawn nhw'n canolbwyntio ar ddod i gytundeb ar y Mesur Ymadael, fydd yn sicrhau cysondeb ar draws y DU er mwyn sicrhau bod pob rhan o'r DU yn barod pan fyddwn ni'n gadael yr UE."

Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies nad oedd yn gweld yr angen am fesur dilyniant, gan ddweud fod angen i lywodraethau'r DU gydweithio i "warchod uniondeb marchnad sengl y DU".

Straeon perthnasol