Gwrthdrawiad 'difrifol' yng Nghaerdydd

Heddlu
Image caption Fe gafodd yr heddlu eu galw am tua 17:00 ddydd Mawrth

Mae gwrthdrawiad 'difrifol' rhwng tri cherbyd wedi arwain at nifer o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar allt Tredelerch, Llaneirwg o'r brif ddinas am tua 17:00 ddydd Mawrth.

Mae llefarydd ar ran Heddlu De Cymru wedi disgrifio'r gwrthdrawiad fel un difrifol.

Roedd yr heddlu, gwasanaeth tân, a'r gwasanaeth ambiwlans yn bresennol, ac mae'r ffordd yn parhau ar gau ar hyn o bryd.