Tîm Cymru'n cyhoeddi enwau llysgenhadon Gemau'r Gymanwlad

Becky James a Christian Malcolm Image copyright TIM GEMAU GYMANWLAD CYMRU
Image caption Dywed Becky James a Christian Malcolm eu bod yn falch o'r anrhydedd

Gyda llai na 40 diwrnod cyn dechrau Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia, mae tîm Cymru wedi cadarnhau mai'r seiclwr Becky James a'r cyn-athletwr Christian Malcolm fydd eu llysgenhadon swyddogol.

Fel rhan o'u dyletswyddau fe fydd y ddau yn rhannu eu profiadau yn y gobaith o ysbrydoli aelodau'r garfan fydd yn cystadlu yn ninas Gold Coast.

Roedd disgwyl iddyn nhw fod yn rhan o ddigwyddiad swyddogol yn Stadiwm y Principality Caerdydd ddydd Iau i ffarwelio'n swyddogol â'r tim, ond bu'n rhaid ei ganslo oherwydd y tywydd garw.

Mae tîm Cymru yn mynd â 209 o athletwyr a mwy na 100 o staff i Awstralia ar gyfer y gemau sy'n dechrau ar 4 Ebrill ac yn gorffen ar 15 Ebrill.

Image copyright Bryn Lennon
Image caption Fe wnaeth Becky James fethu Gemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow oherwydd anaf

Dywedodd Becky James, ennillydd medal aur dwbl Olympaidd a chyn feiciwr trac Cymru, ei bod yn falch iawn o gael cefnogi'r athletwyr eleni ar ôl i anaf ei hatal rhag bod yn rhan o garfan Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.

"Does dim byd tebyg i Gemau'r Gymanwlad ac rwy'n siŵr bod yr holl athletwyr yn gyffrous ac yn nerfus iawn yn y mis sy'n rhedeg lan at y Gemau," dywedodd.

"Fy nghyngor fyddai i ganolbwyntio, paratoi fel y byddwch fel arfer ond yn fwy na dim - mwynhewch y profiad."

Fel gwibiwr fe wnaeth Christian Malcolm gystadlu mewn pedwar o Gemau'r Gymanwlad, gan ennill y fedal arian yn ras y 200m yn Kuala Lumpur yn 1998 a'r fedal efydd yn yr un gamp yn Delhi yn 2010.

Image caption Fe wnaeth Christian Malcolm gystadlu mewn pedwar o Gemau'r Gymanwlad

Yn 2017 fe enillodd wobr yr hyfforddwr gorau yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yng Nghymru, ac fe roedd yn un o dri a enillodd y wobr gyfatebol ar draws y DU ar ôl helpu gwibwyr Prydain i gipio'r fedal aur yn ras 4x100m y dynion ym mhencampwriaeth athletau'r byd.

Dywedodd: "Mae cynrychioli Cymru yn gyfle mor arbennig ac rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r tîm - nid yn unig fel hyfforddwr ond hefyd fel llysgennad.

"Gyda phrofiad, rydw i wedi dysgu bod angen credu'n gryf iawn yn eich gallu i berfformio ac mae angen mwynhau'r profiad.

"Mae gwisgo'r ddraig ar eich crys yn achlysur bythgofiadwy - mae'n ymwneud â bod yn un tîm sydd yn ysbrydoli cenedl nôl adref."

Straeon perthnasol