Stormydd eira yn taro Cymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Stormydd eira yn taro Cymru wrth i dros 900 o ysgolion gau

1 Mawrth 2018 Diweddarwyd 09:12 GMT

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch am eira i rannau o Gymru.

Dyma'r lefel mwyaf difrifol o ran rhybudd, gyda risg i fywydau, wrth i bron i 1,000 o ysgolion gau ar draws y wlad.

Mae cyflwr ffyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth wedi'u heffeithio gan y tywydd.

Dyma'r olygfa yn Llanuwchllyn wrth i wyntoedd cryfion o'r de greu storm eira.