Tlodi plant a phensiynwyr 'ar gynnydd' medd adroddiad

tlodi

Mae'r dadansoddiad diweddaraf ar ystadegau tlodi yng Nghymru yn awgrymu fod cyfran y pensiynwyr, pobl sengl a chyplau â phlant sy'n byw mewn tlodi wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Er bod cyfradd tlodi wedi gostwng o 27% rhwng 1994-1997 i 23% yn 2013-2016, mae'n dal yn uwch na'r gyfradd yng ngweddill gwledydd y DU.

Astudiodd sefydliad Joseph Rowntree incwm grwpiau gwahanol yng Nghymru dros gyfnod o 20 mlynedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cymryd camau i gynyddu nifer y swyddi sy'n talu'n dda ac i atal tlodi".

Diffinio 'tlodi'

Mae'r ffigyrau'n ymwneud â "thlodi incwm cymharol" - yn fras, pan fo rhywun yn byw mewn cartref lle mae'r incwm 60% yn is na'r incwm canolrif, heb gynnwys costau tai.

"Incwm canolrif" yw'r pwynt canol, lle mae hanner y boblogaeth yn ennill cyflog uwch na'r lefel hwnnw, a hanner yn ennill cyflog is.

Image copyright Inpho

Mae'r data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei gasglu a'i gyfrifo dros gyfnodau o dair blynedd.

Mae casgliadau Joseph Rowntree yn "Tlodi Cymru 2018" yn herio'r canfyddiad traddodiadol mai cael swydd yw'r ffordd allan o dlodi.

Ers 1997, mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol yng nghyfran y bobl sy'n gweithio - o 66% i 73%.

Mae cynnydd wedi bod hefyd yn nifer y bobl sydd â chymwysterau - yn 1997, doedd gan chwarter oedolion Cymru ddim cymwysterau, o'i gymharu ag un o bob 10 heddiw.

Ac 20 mlynedd yn ôl, un o bob chwech o bobl oedd wedi cael addysg uwch, o'i gymharu ag un o bob tri nawr.

Er gwaethaf hyn, mae'r adroddiad yn nodi - o fewn y 10 mlynedd diwethaf - fod cyfradd tlodi ymhlith pobl o oed gwaith wedi cynyddu, a bod cyfran yr oedolion cyflogedig sy'n byw mewn tlodi wedi cynyddu yn 2013-2016 o'i gymharu â 2003-2006.

I rai grwpiau o bobl, roedd y gyfran mewn tlodi yn disgyn, one mae wedi codi eto:

Henoed

Fe welodd pensiynwyr ostyngiad mewn tlodi, ond bellach mae'r niferoedd yn codi eto.

Bellach, mae gan Gymru gyfradd uwch o bensiynwyr na Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ystod y tair blynedd rhwng 1994 a 1997, roedd 26% o bensiynwyr Cymru yn byw mewn tlodi.

Disgynnodd y canran i 18% rhwng 2003-2006 a 14% rhwng 2010-2013 ond cododd yn ôl i 18% rhwng 2013-2016.

Plant

Roedd y canran ar 36% rhwng 1994-1997 cyn gostwng i 29% rhwng 2003-2006, a chodi i £30% rhwng 2013-2016.

Pobl ag anableddau

Yng Nghymru, mae 39% o bobl sydd ag anableddau yn byw mewn tlodi o'i gymharu â 22% o bobl sydd â dim anableddau.

Mae cyfradd tlodi ymhlith pobl anabl yn uwch yng Nghymru nag unman arall yn y DU.

Image caption Mae 39% o bobl sydd ag anableddau yng Nghymru yn byw mewn tlodi

Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod yr economi'n gweithio'n well i deuluoedd sydd incwm isel trwy weithio gyda busnesau i greu gwell swyddi, adeiladu tai fforddiadwy a gwneud yn siwr fod bobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda'r sgiliau angenrheidiol.

Dywedodd y prif weithredwr, Campbell Robb: "Mae swyddi ar gyflogau gwael, swyddi ansefydlog, costau byw cynyddol a diffyg budd-daliadau yn golygu fod pobl yng Nghymru yn brwydro i gadw dau ben llinyn ynghyd yn ddyddiol.

"Mae tlodi'n rhwystro'r dewisiadau y gall pobl eu gwneud, gan adael teuluoedd mewn sefyllfa amhosib, fel dewis a ydyn nhw'n mynd i wresogi'r tŷ neu dalu'r rhent."

'Atal tlodi'n flaenoriaeth'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod atal tlodi yn "flaenoriaeth sylfaenol" ac mai nod ei gynllun economaidd yw cynyddu nifer y swyddi sy'n talu'n dda sydd arg ael ar draws Cymru.

"Fis nesaf byddwn yn cyhoeddi ein cynllun cyflenwi cyflogadwyedd fydd yn amlinellu sut y byddwn yn cefnogi pobl, gan gynnwys y rhai hynny sydd bellaf o'r farchnad swyddi - a bydd ein cynnig gofal plant yn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio ar draws Cymru i'w darparu nhw â rhagor o gyfleoedd cyflogaeth," meddai llefarydd.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau darpariaeth tai fforddiadwy ar draws Cymru ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy newydd erbyn 2021.

"Mae angen ymateb cydgysylltiedig ar draws pob rhan o'r llywodraeth wrth fynd i'r afael ag anfantais economaidd, a dyna rydyn ni'n wneud."