Adran Dau: Casnewydd 3-3 Forest Green Rovers

Casnewydd Image copyright Gareth Everett/Huw Evans Picture Agency
Image caption Dan Butler yn dathlu ar ôl cynorthwyo Paul Hayes i sgorio'i ail gôl dros Gasnewydd

Roedd yna siom i Gasnewydd nos Fawrth ar ôl ildio gôl hwyr gartref yn erbyn Forest Green Rovers.

Mewn gêm llawn goliau, yr ymwelwyr aeth ar y blaen gyntaf wrth i Dan Butler rwydo'r bêl i'w gôl ei hun.

Ond llwyddodd Butler i adfer ei enw da gyda gôl dair munud yn ddiweddarach, cyn i Paul Hayes fynd â'r tîm cartref ar y blaen wyth munud yn ddiweddarach.

Daeth Gavin Gunning â'r ymlwelwyr yn ôl yn gyfartal, cyn i Hayes sgorio'i ail i Gasnewydd wedi 38 munud.

Fel hynny yr arhosodd y sgôr tan i Lee Collins daro'r bêl i'r rhwyd i'r ymwelwyr wedi 82 munud, a sicrhau gêm cyfartal.

Mae'r canlyniad yn golygu nad yw Casnewydd wedi ennill ers 19 Ionawr.