Dŵr Cymru: Llai na 100 heb ddŵr wedi Storm Emma

Blaenau Ffestiniog Image copyright Vivian Williams
Image caption Roedd tua 200 o bobl yn ciwio am ddŵr mewn poteli ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Llun

Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau fod cyflenwad dŵr wedi'i adfer i'r rhan fwyaf o gartrefi ar ôl Storm Emma.

Fe weithiodd staff dros nos i drwsio peipiau oedd wedi byrstio, ar ôl i dros 1,000 eiddo yng Ngheredigion, Sir Benfro ac Ynys Môn gael eu heffeithio.

Roedd rhai cwsmeriaid heb ddŵr ers dydd Gwener, gyda nifer yn anhapus gyda'r oedi i dderbyn poteli dŵr.

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod yn ymateb i 200 o ddigwyddiadau pob dydd.

Mae'r cwmni wedi cadarnhau fod llai na 100 eiddo bellach heb gyflenwad dŵr.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol