Cyrff Ynys Môn: Agor a gohirio cwest i farwolaeth dau ddyn

malltraeth
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i draeth Malltraeth am 11:43 fore Gwener 9 Chwefror

Mae cwest yn achos dau ddyn gafodd eu darganfod yn farw ar draeth ar Ynys Môn wedi ei agor a'i ohirio ddydd Iau.

Cafwyd hyd i gyrff Richard Adam Hollis, 37 o Preston, a Nathan Orritt, 18 o Blackpool, ar draeth Dinas Llwyd, Niwbwrch ar 9 Chwefror.

Clywodd y gwrandawiad fod rhan isaf o goes a throed Mr Hollis wedi cael ei ddarganfod ar draeth yn Y Felinheli ddeuddydd ynghynt.

Fe gafodd y ddau ddyn eu hadnabod o'u holion bysedd.

Dywedodd y crwner, Dewi Pritchard Jones fod ymchwiliadau i farwolaethau'r ddau ddyn yn parhau.

Ni chafodd dyddiad pendant ei bennu ar gyfer y cwest llawn.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol