Cynghorwyr Penfro yn cymeradwyo cynnydd treth o 12.5%

Cyngor Penfro
Image caption Fe wnaeth cynghorwyr Sir Benfro bleidleisio o blaid cynnydd dydd Iau

Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi pleidleisio o blaid cynyddu Treth y Cyngor 12.5%.

Ddydd Iau, fe glywodd aelodau etholedig fod y cyngor yn wynebu bwlch ariannol o £16.4m ar gyfer 2018-19.

Galwodd Bob Kilminster, aelod o'r cabinet â chyfrifoldeb am gyllid, ar gynghorwyr i gymeradwyo'r cynnydd, gan ddweud: "Nid ein gwaith ni yw bod yn boblogaidd ond i wneud yr hyn sy'n iawn."

Roedd cynghorwyr wedi cael yr opsiwn i gynyddu'r dreth o 5%, 8% neu 12.5%.

Yn ôl y cynghorydd Kilminster, roedd y cyngor mewn "sefyllfa ddifrifol" ac roedd rhaid cau'r bwlch ariannol.

Pleidleisiodd 40 o blaid y cynnydd gyda 18 yn gwrthwynebu.

'Teuluoedd dan straen'

Nid pawb sy'n croesawu'r cynnydd.

Dywedodd John O'Connell, Prif Weithredwr Cynghrair y Trethdalwyr: "Tra bo gwleidyddion lleol yn cwyno fod eu cyllidebau dan straen, fe ddylen nhw gofio ei bod hi felly hefyd ar gyllidebau teuluoedd.

"Mae treth y cyngor yn faich ar drethdalwyr ac yn gyfran fawr o'u costau byw.

"Dylai awdurdodau lleol feddwl ddwywaith cyn cynyddu trethi eto, ac yn hytrach, fynd i'r afael â gwariant gwastraffus."

Cynyddu trethi

Er gwaetha'r cynnydd, yr uchaf yng Nghymru eleni, Sir Benfro sy'n parhau ar lefel isaf o Dreth y Cyngor o holl siroedd Cymru.

Ddydd Iau hefyd, fe wnaeth cynghorwyr Gwynedd bleidleisio i gynyddu Treth y Cyngor 4.8%.

Dywedodd y cynghorydd Peredur Jenkins, yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am gyllid, fod y cynnydd yn golygu na fydd yna unrhyw doriadau pellach i wasanaethau rhwng nawr ac Ebrill 2019.

"Er gwaethaf gwneud arbedion o £2.8m, rydan ni wedi gorfod cynyddu'r Dreth Cyngor er mwyn diogelu gwasanaethau sy'n bwysig i bobl leol," meddai.

Erbyn hyn mae pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi pleidleisio i godi'r dreth yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Does dim ataliad swyddogol ar lefel unrhyw gynnydd yn y dreth, ond nid oes unrhyw gyngor wedi herio uchafswm answyddogol o 5% tan eleni.

Cynnydd fesul awdurdod

  • Blaenau Gwent - Codiad o 4.2% - £4.2 million arbedion;
  • Pen-y-bont ar Ogwr- Codiad o 4.5% - £6.1m o arbedion* i'w gadarnhau;
  • Caerdydd - Codiad o 5% - £25m o arbedion;
  • Caerffili- Codiad o 4.52% - £7.2m o arbedion;
  • Caerfyrddin - Codiad o 4.45%;
  • Ceredigion - Codiad o 5.02% - £5 million o arbedion;
  • Conwy - Codiad o 4.84% - £11.3m o arbedion;
  • Sir Ddinbych - Codiad o 4.75% - £4.6m o arbedion ac yn defnyddio £2m oedd wrth gefn;
  • Sir y Fflint - Codiad o 6.7% - Ffigwr arbedion i ddod;
  • Gwynedd - Codiad o 4.8%
  • Sir Fynwy - Codiad o 4.95% - Ffigwr arbedion i ddod;
  • Merthyr Tudful - codiad o 4.15% - arbedion £13.7m dros bedair blynedd
  • Castell-nedd Port Talbot - Codiad o 3.7% - £8.9m o arbedion;
  • Casnewydd - Codaid o 4.8% - Cynllun arbedion 3 mlynedd felly dim ffigwr ar gyfer eleni;
  • Powys - Codiad o 5% - £17m o arbedion erbyn 2019/20;
  • Sir Benfro - Codiad o 12.5%
  • Rhondda Cynon Taf - Codiad o 3.3% - £7m o arbedion;
  • Abertawe - Codiad o 4.98% - £28m o arbedion;
  • Torfaen - Codiad o 4.95% - Arbedion o £8.5m;
  • Bro Morgannwg - Codiad o 3.9% - £6.2m o arbedion;
  • Wrecsam - Codiad o 3.9% - £4.787m o arbedion;
  • Ynys Môn - Codiad o 4.8% - Arbedion o £2m i'w gadarnhau
Image caption Mae Cyngor Abertawe yn ceiso arbedion o £28m

Yn Sir y Flint bydd disgwyl i drethdalwyr dalu 6.7% yn fwy yn 2018-19 nag yn 2017-18.

Rhondda Cynon Taf fydd yn gweld y cynnydd lleiaf, o 3.3%

Mae disgwyl i gynghorau yng Nghymru ddod o hyd i filiynau o bunnoedd yn y flwyddyn ariannol nesaf, gyda dau o'r mwyaf, Caerdydd ac Abertawe, yn gorfod arbed £25m a £28m yr un.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y cynghorau'n wynebu pwysau ariannol o oddeutu £200m yn y flwyddyn ariannol nesaf wrth i gyllid o Lywodraeth Cymru ddisgyn mewn termau real.

Dywedodd: "Mae amgylchiadau bob awdurdod yn wahanol, ond fe fyddan nhw i gyd yn ystyried i wahanol raddau faint o godiad sydd ei angen i'r dreth er mwyn lliniaru'r toriadau.

"Mae'r toriad yn y setliad llywodraeth leol eleni'n golygu y bydd gan y cynghorau ddim dewis ond gwneud penderfyniadau anodd a blaenoriaethu gwasanaethau yn y dyfodol.

Fe gafodd Llywodraeth Cymru gais i wneud sylw.