Prosiect ieithoedd llai yn cyrraedd penllanw yn Llangollen

Disgyblion a chynrychiolwyr o'r gymdeithas
Image caption Cafodd y disgyblion o wledydd eraill gyfle i glywed am sefydliadau sy'n defnyddio'r Gymraeg yn ardal Llangollen

Mae prosiect cyfnewid sy'n edrych ar sut mae gwarchod ieithoedd llai wedi cyrraedd ei benllanw yn Llangollen.

Yr wythnos hon, daeth grwpiau o ysgolion o bob cwr o Ewrop i Ysgol Dinas Brân - y tro olaf y byddan nhw oll yn cwrdd.

Mae'r disgyblion, sy'n rhan o'r prosiect, wedi cael teithio i wledydd eraill i weld sut mae'r ieithoedd llai yno'n cael eu trin.

Ymhlith y grwpiau ieithyddol sydd wedi'u cynrychioli mae'r Cashwbiaid o Wlad Pwyl, siaradwyr Romansch o'r Swistir, a siaradwyr Swedeg o'r Ffindir.

Ar eu hymweliad â Llangollen, clywodd y disgyblion am waith mudiadau fel yr Urdd.

Fe wnaethon nhw hefyd gymryd rhan mewn gweithdy i lunio datganiadau o hawliau dinasyddion, fydd yn cael eu gyrru i Senedd Ewrop ym Mrwsel.

Image caption Soniodd Beth Pierce, sydd yn y chweched dosbarth, am ei chynlluniau i fynd i Batagonia

Dywedodd Beth Pierce, un o'r disgyblion sy'n rhan o'r fenter, fod gan Gymru wersi i'w dysgu gan wledydd eraill.

"Dwi'n meddwl ein bod ni ar ei hôl hi," meddai.

"Mae llawer mwy o bobl yn siarad eu hieithoedd lleiafrifol nhw... yn y gwledydd eraill, maen nhw'n hybu'r iaith llawer mwy nag maen nhw yng Nghymru, ac yn enwedig yn ein hardal ni.

"'Dan ni jyst angen siarad [Cymraeg] fwy, achos dwi'n eu gweld nhw'n siarad yr iaith [leiafrifol] efo'i gilydd, a dwi byth yn siarad efo fy ffrindiau i yn Gymraeg."

Arian Ewropeaidd

Mae'r fenter wedi ei hariannu gan raglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd.

Gyda Brexit ar y gorwel, cyhoeddodd Theresa May ym mis Rhagfyr y bydd Prydain yn parhau'n rhan o'r rhaglen tan 2020 o leiaf.

Yn gynharach eleni, dywedodd pennaeth Prifysgol Caerdydd y dylai'r DU "ystyried o ddifrif" sefydlu cynllun astudio dramor ei hun wedi Brexit.

Image caption Mae Adelaide Edwards yn dweud bod yr ysgol wedi elwa o gyllid Erasmus+

Rhybudd Adelaide Edwards, un o'r athrawon yn Ysgol Dinas Brân sydd ynghlwm â'r fenter, ydy na ddylai'r drefn wedi Brexit amddifadu disgyblion.

"Mae gan yr ysgol International Schools Award, felly 'dan ni wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau dros y blynyddoedd," meddai.

"Ac mae'r pres gan Erasmus yn rhan o'r rheswm pam 'dan ni'n gallu cael y cyfleon yma o fewn yr ysgol.

"Heb yr arian yna, heb fod yn rhan o'r UE, dwi ddim yn gwybod lle fydd y dyfodol."

I gau pen y mwdwl ar y prosiect bydd Ysgol Dinas Brân yn trefnu ffair yn ddiweddarach eleni, a'r bwriad ydy annog ysgolion cynradd lleol i gymryd rhan er mwyn hybu'r Gymraeg ymhellach.

Straeon perthnasol