Gollwng cyhuddiadau yn erbyn Shane Williams a'i frawd

Shane Williams Image copyright Getty Images
Image caption Mae Shane Williams nawr yn gweithio fel sylwebydd

Mae cyhuddiadau troseddol yn erbyn cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Shane Williams, a'i frawd Dean wedi cael eu gollwng.

Roedd y ddau ymhlith chwech o ddynion oedd wedi eu cyhuddo o fod yn rhan o ffrwgwd yng nghanol Caerdydd ar 2 Rhagfyr 2017.

Ond ddydd Gwener fe gyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddan nhw'n bwrw 'mlaen â'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Fe wnaeth Williams, 41, ymddeol o chwarae rygbi'n broffesiynol yn 2014, ar ôl ennill 91 cap dros Gymru a'r Llewod a sgorio 60 cais.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol