Dewi Griffiths i fethu Gemau'r Gymanwlad oherwydd anaf

Dewi Griffiths Image copyright Getty Images
Image caption Dyma'r ail dro i Griffiths fethu allan ar gystadlu yn Gemau'r Gymanwlad.

Mae Athletau Cymru wedi cadarnhau y bydd y Cymro Dewi Griffiths yn methu Gemau'r Gymanwlad yn Gold Coast, Awstralia eleni oherwydd anaf.

Mewn neges ar Twitter dywedodd y rhedwr o Lanfynydd, Sir Gâr, sy'n cystadlu yn y 5,000m a'r 10,000m, ei fod wedi hollti asgwrn.

Dyma'r ail dro i Griffiths fethu cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, a hynny wedi iddo anafu'i droed cyn rhedeg yn Glasgow bedair blynedd yn ôl.

Mae Chris Jones o Athletau Cymru wedi disgrifio'r newyddion fel "ergyd fawr i'r tîm".

Dywedodd Dewi Griffiths: "Dyma'r newyddion diwethaf mae athletwr eisiau ei glywed, ond dwi'n siŵr bydd Tîm Cymru yn gwneud y wlad yn falch."