Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-2 Birmingham

Caerdydd yn dathlu gôl Image copyright Asiantaeth Luniau Huw Evans
Image caption Dim ond tri phwynt unig y mae Caerdydd oddi ar frig y Bencampwriaeth

Mae Caerdydd wedi ennill eu chweched gêm o'r bron ar ôl curo Birmingham o 3-2 yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Roedd hi'n hanner cyntaf cyfforddus i'r Adar Gleision diolch i goliau Nathaniel Mendez-Laing, Craig Bryson a Callum Paterson.

Fe gaeodd Craig Gardner y bwlch i 3-1 wedi 55 o funudau, diolch i gic o'r smotyn, ac fe gafodd Maxime Colin un arall ar ddiwedd yr amser ychwanegol am anafiadau.

Ond mae trallodion Birmingham yn parhau wrth iddyn nhw golli eu wythfed gêm o'r bron, a'r gyntaf o dan eu rheolwr newydd - cyn-reolwr Abertawe, Garry Monk.

Mae Caerdydd yn parhau yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth, dri phwynt yn unig oddi ar y tîm ar y brig, sef Wolverhampton Wonderers.