Marwolaeth Sanclêr: Bachgen o flaen Llys y Goron

Ffiona Jayne Scourfield Image copyright Llun Teulu
Image caption Cafwyd hyd i gorff Fiona Jayne Scourfield ar 6 Mawrth

Mae bachgen 16 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes yn Sir Gaerfyrddin.

Mae wedi ei gyhuddo o ladd Fiona Scourfield, 54, gyda bwyell a chleddyf samurai.

Fe ddaeth plismyn o hyd i gorff Ms Scourfield ar Fferm Broadmoor ger Sanclêr ar 6 Mawrth.

Cafodd y bachgen ei gadw yn y ddalfa mewn uned ddiogel ieuenctid a bydd ei ymddangosiad llys nesaf ar 18 Mai.

Pynciau Cysylltiedig