Mwy o Gymry balch yn y Cymoedd nag yng Ngwynedd a Môn?

Image copyright Getty Images

Ydy Cymreictod yn gryfach yn y Cymoedd nag yn unrhyw le arall yng Nghymru?

Ydy hunaniaeth Gymreig a'r gallu i siarad yr iaith frodorol yn mynd law yn llaw?

Yn ddiweddar fe dynnodd ystadegwyr sylw at arolwg blynyddol Llywodraeth Cymru, a'r adran yma'n benodol: "Hunaniaeth genedlaethol yn ôl ardal a hunaniaeth".

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu mai'r ateb i'n cwestiwn cyntaf ni ydy "ydy" - mae Cymreictod yn gryfach yn y Cymoedd nag yn unman arall.

Y ffigyrau?

Ym Merthyr Tudful, mae dros 80% yn ystyried eu hunain yn Gymreig. Yn Sir y Fflint, ar y llaw arall, dim ond 35% sy'n ystyried eu hunain yn Gymry.

Mae Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Blaenau Gwent i gyd o gwmpas 80%, tra bod Gwynedd (66%), Môn (62%) a Cheredigion (51%) - cadarnleoedd yr iaith Gymraeg - dipyn yn is.

Gallwch weld y ffigyrau'n llawn yma.

Barn un o'r ardal

Un sydd wedi byw trwy gydol ei oes yn Nhreorci yn y Rhondda ydy'r cyn-athro Cennard Davies.

"Dwi ddim yn synnu o gwbl bod y ffigyrau yn dangos hyn," meddai. "Dwi wastad wedi teimlo hynny. Ry'ch chi'n sôn am Sir y Fflint yn isel, wel dyna ble mae'r mewnlifiad - hyd yn oed ym Môn a rhannau o Arfon, mae 'na fewnlifiad mawr wedi bod.

"Mae 'na gymudo yma [yn y Cymoedd], mae cymdeithas wedi newid, ond mae Caerdydd a choridor yr M4 o fewn cyrraedd a ma' pobl yn gallu teithio ond byw yn fan hyn.

"Mae fy mhlant i er enghraifft yn gweithio'n Gaerdydd ond yn byw yn fan hyn am eu bod nhw'n gwerthfawrogi'r teimlad yma o gymdeithas."

Hefyd o ddiddordeb:

Pobl eu milltir sgwâr

"Un o'r rhesymau am [y ffigwr uchel yn y Cymoedd] yw bod canran uchel iawn iawn yn gynhenid i'r lle," meddai Cennard Davies.

"Does dim mewnfudo wedi bod - dwi wedi sylwi ar fwy yn ddiweddar nag erioed ond mae'r rhan fwyaf o'r bobl yn perthyn i'r gymuned ac mae 'na unoliaeth yna a chymdogaeth a ma' pobl yn teimlo'n gryf am eu hunaniaeth nhw.

"Ma' Cymry di-Gymraeg yn teimlo mai Cymry ydyn nhw a hynny sy'n cyfri'. Mae gymaint o alw am addysg Gymraeg hefyd ac mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw.

"Mae 'na gefnogaeth i'r Gymraeg yn bendant."

Barn y bobl?

Fel y byddech yn disgwyl yn yr oes yma, roedd dadansoddiad frwd ar Twitter am yr ystadegau:

Fe dynnodd ambell un sylw at y modd yr oedd yr adroddiad wedi'i eirio:

Ond yn ôl Hywel Jones, o wefan Statiaith, does "dim newid nodedig" wedi bod yn yr adroddiad diweddaraf o'i gymharu â'r tro diwethaf: