gwrthdrawiad
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Rhybudd i yrwyr blinedig wedi gwrthdrawiad difrifol

15 Mawrth 2018 Diweddarwyd 17:58 GMT

RHYBUDD: GALLAI CYNNWYS Y FIDEO BERI LOES I WYLWYR

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n rhybuddio gyrwyr blinedig i fod yn ofalus, wedi i seiclwr gael anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Nyffryn Conwy.

Ddydd Mawrth, cafodd Jake David Tompkinson, 28 oed, o Rowen yng Nghonwy ei ddedfrydu i 12 mis o garchar, a'i wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd a hanner wedi'r digwyddiad yn Nhalybont fis Gorffennaf y llynedd.

Dywedodd yr heddwas Einion Huws: "Roedd natur gyrru Tompkinson yn ddiofal ac anghyfrifol, ac mae'n lwc pur nad ydyn ni'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol.

"O ganlyniad i'r gwrthdrawiad, cafodd y seiclwr anafiadau difrifol ar rydym yn dymuno gwellhad buan iddo."