Pro14: Gleision 31-25 Benetton

Gleision v Benetton Image copyright Huw Evans picture agency

Ennill oedd hanes y Gleision nos Wener o 31-25 yn erbyn Benetton gan sicrhau pwynt bonws.

Llwyddodd Owen Lane, Olly Robinson, Ellis Jenkins a Nick Williams i sgorio'r ceisiau, gyda'r capten Gethin Jenkins yn serennu i'r tîm cartref.

Benetton sgoriodd gyntaf gyda dwy gic gosb diolch i Marty Banks wrth i'r Gleision ddechrau'r gêm yn araf.

Gydag Evans yn llwyddo cicio'n gywir ac Owen Lane yn croesi am gais, roedd y Gleision yn mynd fewn ar yr hanner ar y blaen o 17-13.

Roedd Tomos Williams ac Ellis Jenkins wedi eu rhyddhau o garfan Cymru i chwarae'r gêm, gyda'r ddau yn dod mlaen ar gyfer yr ail hanner.

Llwyddodd y Gleision i sicrhau pwynt bonws pan groesodd y rhif wyth, Williams wedi 53 munud.

Roedd diwedd y gêm yn anesmwyth wrth i Benetton frwydro'n ôl. Fe groesodd nhw am gais ar ôl 79 munud a sicrhau pwynt bonws er eu bod wedi colli.

Gyda'r Eidalwyr yn pwyso am gais arall, llwyddodd y Gleision i droi'r bêl a sicrhau buddugoliaeth sydd yn ei symud nhw bum pwynt y tu ol i'r Cheetahs sy'n drydydd.

Pynciau Cysylltiedig