Abertawe allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl colli gartref

Abertawe Spurs Image copyright Reuters

Mae Abertawe allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl colli o dair gôl i ddim yn erbyn Tottenham Hotspur ar y Liberty.

Roedd yr Elyrch yn llygadu eu lle yn rownd gynderfynol y cwpan am y tro cyntaf ers 1964, ond gyda Spurs yn llwyr reoli'r gêm, fe bylodd y gobeithion hynny'n o fuan.

Daeth y gôl gyntaf i'r ymwelwyr o droed Christian Eriksen wedi 11 munud - amddiffyn gwael Abertawe'n caniatáu digon o amser iddo ergydio'r bêl yn gyfforddus i gornel ucha'r rhwyd.

Érik Lamela sgoriodd yr ail, wrth i Abertawe'n colli'r meddiant unwaith eto, a'r Archentwr yn taro cefn y rhwyd ym munudau ola'r hanner cyntaf.

Image copyright PA
Image caption Christian Eriksen sgoriodd dwy o goliau Tottenham Hotspur

Roedd gan y tîm cartref fynydd i'w ddringo yn yr ail hanner, a doedd dim llawer o arwyddion fod yr Elyrch wedi dod o hyd i ail wynt.

Daeth y drydedd gôl i'r ymwelwyr yng nghanol yr ail hanner, wrth i Eriksen unwaith eto ganfod cefn y rhwyd, a'r unig gysur i Abertawe mewn gwirionedd yw y gallai'r sgôr fod wedi bod llawer gwaeth.

Buddugoliaeth gyfforddus i Tottenham Hotspur, fydd yn darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y rownd gynderfynol wedi gêm Leicester a Chelsea ddydd Sul.

I Abertawe, dyma'r gêm gyntaf i dîm Carlos Carvalhal golli gartref ers 2 Ionawr, pan gawson nhw'u curo gan Spurs o 2-0 yn yr Uwch Gynghrair Lloegr.


Dadansoddiad Owain Llyr

Dim cywilydd o safbwynt Abertawe, achos dyna'r perfformiad gorau dwi wedi ei weld gan dîm oddi cartref yn Stadiwm Liberty y tymor yma.

Er i Tottenham wneud 7 newid i'w tîm, wnaeth hynny ddim amharu arnyn nhw gan fod yna gymaint o ddyfnder yn y garfan.

Tasai Tammy Abraham wedi sgorio ar ddechrau'r ail hanner, sa hi wedi gallu bod yn stori wahanol.

Ond o leiaf fod Abertawe'n gallu canolbwyntio ar y frwydr i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr rhwng rwan a diwedd y tymor