Carchar am oes am lofruddio mam ifanc yng Nghaerdydd

Anthony Lowe a Katherine Smith Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Fe wnaeth Anthony Lowe drywanu Katherine Smith 33 gwaith mewn ymosodiad "ffyrnig"

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio mam ifanc yng Nghaerdydd ar ôl ei chwrdd ar wefan ddêtio.

Fe wnaeth Anthony John Lowe, 46 o ardal Glan yr Afon y brifddinas, bledio'n euog ddydd Mawrth a chyfaddef lladd Katherine Smith, 26.

Roedd Lowe wedi gwadu'r cyhuddiad mewn gwrandawiadau blaenorol.

Bydd yn treulio o leiaf 18 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.

Cafodd Ms Smith ei thrywanu 33 gwaith yn yr ymosodiad "ffyrnig" gan Lowe yn ardal Trelái ym mis Medi y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd eu bod wedi cwrdd ar wefan Plenty of Fish, a'u bod wedi bod mewn perthynas am lai na deufis cyn yr ymosodiad.

Image caption Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Heol Trelái yng Nghaerdydd

Dywedodd Michael Jones ar ran yr erlyniad bod yr ymosodiad yn un "pwrpasol, estynedig a milain".

Wrth ddedfrydu Lowe, dywedodd y Barnwr Neil Bidder: "Gan ddefnyddio enw ffug, fe wnaethoch chi ffurfio perthynas gyda Ms Smith, ond roedd y negeseuon gennych chi yn dangos eich bod yn berson eiddigeddus ac yn ceisio ei rheoli.

"Yn y cyfnod byr roedd Ms Smith yn eich adnabod, fe wnaethoch chi ddefnyddio trais corfforol tuag ati.

"Mae'n bosib eich bod wedi'ch aflonyddu ar ôl ei gweld yn siarad â dyn arall yn gwbl ddiniwed mewn clwb nos.

"Rydych chi'n berson hunanol, penderfynol, a pheryglus iawn, ac mae eich ymddygiad ar ôl y lladd Ms Smith wedi dangos diffyg edifeirwch ar eich rhan."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol