Mwg ger damwain awyren Y Fali
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Damwain awyren: Mwg yn codi o safle RAF Y Fali

20 Mawrth 2018 Diweddarwyd 16:18 GMT

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod awyren wedi plymio i'r ddaear yn Y Fali ar Ynys Môn.

Dywedon nhw mai awyren Hawk, sy'n rhan o dîm y Red Arrows sydd wedi bod yn y ddamwain.

Mae mwg du i'w weld yn codi o'r digwyddiad, wrth i'r gwasanaethau brys barhau ar y safle.