Trawma Llŷr ap Glyn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Lwcus' bod uned drawma yn Stoke

22 Mawrth 2018 Diweddarwyd 11:54 GMT

Ysbyty Athrofaol Cymru ddylai fod y ganolfan drawma gyntaf yn y wlad yn ôl argymhelliad gan benaethiaid y gwasanaeth iechyd.

Ysbyty Treforys ger Abertawe oedd yr ysbyty arall oedd wedi gwneud cais i gael y statws arbennig.

Bydd y ganolfan yn arbenigo mewn gofal cleifion ag anafiadau allai beryglu bywydau.

Yn y gogledd mae cleifion yn cael eu gyrru i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke lle mae canolfan drawma difrifol.

Un wnaeth dreulio amser yno oedd Llŷr ap Glyn o Lanrwst.

Dyma ei stori.