Y Seintiau Newydd yn ennill Uwch Gynghrair Cymru

Y Seintiau Newydd Image copyright Getty Images

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru am y seithfed tro yn olynol wedi i'r Bala fethu ag ennill nos Wener.

Roedd y Seintiau 15 pwynt ar y blaen i'r Bala, oedd yn ail yn y gynghrair, gyda phum gêm yn weddill cyn y penwythnos yma.

Ond cafodd Y Bala eu trechu gartref gan Gei Connah yng ngêm gyntaf y penwythnos nos Wener, gan olygu nad oes modd iddyn nhw ddal Y Seintiau Newydd bellach.

Y Seintiau sydd wedi ennill y gynghrair pob blwyddyn ers tymor 2011-12, a dyma'r 12fed gwaith iddyn nhw ei hennill.

Bydd y Seintiau'n croesawu Derwyddon Cefn i Neuadd y Parc ddydd Sul ble byddan nhw'n cael eu cyflwyno gyda thlws Uwch Gynghrair Cymru.

Pynciau Cysylltiedig