Ymchwiliad wedi digwyddiad yn Llandrillo

Rhos Road Image copyright Google
Image caption Ymchwilad wedi digwyddiad ar Ffordd y Rhos, Llandrillo

Mae dyn yn cael triniaeth yn yr ysbyty wedi digwyddiad yn Llandrillo-yn-Rhos fore Gwener.

Cafodd y gwasnaethau brys eu galw i Ffordd y Rhos ychydig cyn 11:00.

Cafodd y dyn ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Glan Clwyd.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i'r digwyddiad.