Tân mewn tŷ ym Mhorthmadog

Pensyflog Image copyright Google
Image caption Cafodd y gwasnaeth tân ei alw i Bensyflog am 11:30

Mae'r gwasanaeth tân wedi bod yn diffodd tân mewn tŷ ym Mhorthmadog fore Sadwrn.

Cafodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru eu galw i'r tân ym Mhensyflog am 11:30.

Yn ôl llefarydd ar ran y gwasnaeth tân cafodd dwy injan eu hanfon.

Dyw union achos y tân ddim eto'n hysbys a ni chredir fod neb wedi cael ei anafu yn y tân.