Pro 14: Munster 19-7 Scarlets

Scarlets scrum-half Aled Davies outpaces Munster captain Billy Holland at Thomond Park Image copyright Inpho
Image caption Cais cynnar i Aled Davies ond Munster yn drech na'r cochion oddi cartref nos Sadwrn

Colli fu hanes y Scarlets nos Sadwrn oddi cartref yn erbyn Munster o 19 i 7.

Yr ymwelwyr oedd â'r fantais wedi ugain munud - diolch i gais y mewnwr Aled Davies a'r Scarlets oedd ar y blaen ar hanner amser er bod James Hart wedi sgorio cais i'r Gwyddelod.

Ond pharhaodd yr oruchafiaeth o ddau bwynt ddim yn hir gan i Alex Wotton a Robin Copeland sgorio dros y tîm cartref yn yr ail hanner.

Roedd y Scarlets yn edrych yn fygythiol sawl gwaith ym Mharc Thomond ac er i'r tîm cartref gicio yn wael ar adegau nhw oedd yn meistroli erbyn diwedd.

Mae'n debyg y bydd y gêm yn cael ei chofio am benderfyniad dadleuol y dyfarnwr Marius Mitrea i beidio caniatáu cais James Cronin - penderfyniad nad oedd wrth fodd y dorf o gefnogwyr.

Y sgôr terfynol Munster 19, Scarlets 7.