Ras 10k yn cau nifer o ffyrdd yng Nghaerdydd

Last year's event Image copyright Ras Bae Caerdydd
Image caption Bydd y ras yn dechrau am 11:00

Roedd nifer o ffyrdd y brifddinas ynghau ddydd Sul wrth i'r ras 10k gael ei chynnal ym Mae Caerdydd.

Credir fod oddeutu 6,000 o redwyr wedi rhedeg ras Brecon Carreg.

Yn ogystal cafodd ras 2k i'r teulu cyfan ei chynnal am 10:00.

Roedd Rhodfa Lloyd George, Stryd Pierhead a'r ffordd gyswllt Central Link ar gau rhwng 10:00 a 13:30.

Ar gais y trefnwyr defnyddiodd nifer o'r cystadleuwyr drafnidiaeth gyhoeddus ac fe benderfynodd rhai pobl seiclo neu gerdded.

Image copyright Ras Bae Caerdydd
Image caption Roedd y ras yn gorffen ger canolfan Roald Dahl