Ymchwiliad wedi gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd

damwain Image copyright Heddlu Gwent

Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus ac wedi ei rhyddhau o dan ymchwiliad wedi gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 16:50 brynhawn dydd Sul ger Tredegar a chafodd pump o bobl eu hanfon i'r ysbyty.

Y gred yw mai mân anafiadau gawson nhw.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un welodd yr hyn ddigwyddodd i gysylltu â nhw.

Image copyright Heddlu Gwent
Image caption Cafodd pump o bobl eu hanfon i'r ysbyty wedi'r gwrthdrawiad

Pynciau Cysylltiedig