Comisiynydd: Darpariaeth i Gymry dan glo 'ddim digon da'

Carchar Image copyright Getty Images

Dyw'r ddarpariaeth i garcharorion sy'n siarad Cymraeg dal "ddim yn ddigon da" medd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf fore Mawrth dywedodd fod y sefyllfa wedi gwella ers 2015 ond bod "diffyg cysondeb" mewn carchardai.

Daw ei sylwadau cyn iddi roi tystiolaeth i ASau yn ddiweddarach am y ddarpariaeth i garcharorion sy'n siarad yr iaith.

Ymhlith y materion mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn canolbwyntio arnynt fydd sut mae troseddwyr sy'n siarad yr iaith yn cael eu trin, y gwasanaethau bugeiliol ac unrhyw fater traws-ffiniol.

Dywed y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod darpariaeth Gymraeg ar gael ym mhob carchar,

Cynllunio 'mwy pwrpasol'

Yn siarad fore Mawrth, dywedodd Meri Huws bod angen "adnabod anghenion ieithyddol carcharorion".

"Dyw'r wybodaeth yma ddim yn gadarn gan y gwasanaeth carchardai ar hyn o bryd."

Mae'r comisiynydd yn edrych ar brofiad carcharorion yn sgil y ffaith fod Carchar Berwyn wedi agor yn Wrecsam y llynedd.

Image caption Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod rhaid edrych ar sefyllfa merched a phobl ifanc sy'n cael eu hanfon dros y ffin

Mae'n credu bod angen i'r gwasanaeth carchardai fod yn "cynllunio'n fwy pwrpasol" gan nad yw dynion sy'n siarad Cymraeg o reidrwydd yn cael eu hanfon i garchardai yng Nghymru.

Mater arall sydd angen ei ystyried meddai yw'r sefyllfa i ferched a phobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru.

Edrych ar y gweithlu

Nid yw cyfiawnder troseddol wedi ei ddatganoli i Gymru, ond yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder y nod yw bod Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yn trin y Gymraeg a'r Saesneg "yn gyfartal".

Mae cynllun iaith 2013 yn ei le yng ngharchardai Cymru sy'n golygu bod technoleg ar gael yn y Gymraeg, arwyddion dwyieithog a chyfle i garcharorion ddarllen yn y Gymraeg.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg mae'r cynllun iaith bresennol yn golygu bod yn "rhaid iddyn nhw edrych ar eu gweithlu" er mwyn sicrhau'r un statws i'r ddwy iaith.

Image copyright Nick Dann
Image caption Agorodd Carchar Berwyn ger Wrecsam yn Chwefror 2017

Nan Powell-Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweinidogaethau gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru fydd un o'r bobl eraill fydd yn rhoi tystiolaeth.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dydy eu hanghenion iechyd meddwl ddim yn cael eu cyrraedd.

"Mae carchar yn gallu helpu 'efo pethau fel llety, addysg, dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, adeiladu pontydd gyda'u teuluoedd."

Ychwanegodd bod y ddarpariaeth yn "negyddol iawn o ran y Cymry".

Dywedodd hefyd bod Carchar Berwyn yn darparu rhywfaint o addysg yn Gymraeg ond nad yw carcharorion sy'n ddynion o reidrwydd yn cael eu hanfon i garchardai yng Nghymru.

'Cyfle gorau i adsefydlu'

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David T.C. Davies AS cyn y sesiwn ei bod hi'n "hanfodol bod y system garchardai yn rhoi gwasanaeth effeithiol i'r bobl sy'n cael eu danfon yno i'w hadsefydlu, gan gynnwys y rhai sy'n siarad Cymraeg".

Ychwanegodd y bydd y pwyllgor hefyd yn gweld "beth yn fwy all ein carchardai wneud i sicrhau bod pob carcharor yn cael y cyfle gorau i adsefydlu".

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Mae darpariaeth iaith Gymraeg, gan gynnwys gwasanaethau cyfieithu, ar gael ym mhob carchar ac rydym yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn darparu deunydd dwyieithog pan mae angen.

"Mae pellter o gartref yn un ffactor sy'n cael ei ystyried wrth leoli carcharorion, hynny yn ogystal â maint y ddedfryd, categori diogelwch y carcharor ac anghenion ymddygiad."

Straeon perthnasol