Pa wersi masnach i Gymru gan Senedd Wallonia?

Glofa
Image caption Bu farw glowyr o 12 gwlad yn Bois Du Cazier yn 1956

Roedd e'n drychineb mwyngloddio mawr a laddodd 262 o weithwyr.

Am 08:10 ar 8 Awst 1956, fe gymerodd tân ym mhwll glo Bois Du Cazier fywydau glowyr o 12 o wahanol wledydd.

Heddiw, mae'r hen lofa yn rhanbarth Wallonia yn ne Gwlad Belg yn gofeb i'r trychineb hwnnw dros 60 mlynedd yn ôl.

Wrth gwrs, mae llawer o hanes mwyngloddio Cymru erbyn hyn hefyd wedi'i gynnwys yn y llyfrau hanes, a rhai wedi eu troi'n amgueddfeydd.

Mae yna debygrwydd pellach, ar ôl ffyniant economaidd yn sgil diwydiannau trwm, mae'r ddau wedi cael hi'n anoddach wrth i'r diwydiannau hynny fethu, tra bod 'Wales' a 'Wallonia' yn deillio o'r term Almaeneg 'Walhaz' a ddefnyddir yn hanesyddol i olygu 'tramorwyr'.

'Pŵer eithriadol'

Ond pan ddaw i gytundebau masnach rhyngwladol, nid oes yna debygrwydd.

'Nôl yn 2016, ar ôl saith mlynedd o drafod, roedd Senedd Wallonia wedi rhwystro cytundeb masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Chanada ar y funud olaf.

Image caption Mae Senedd Wallonia yn gallu dylanwadu ar gytundebau masnachol

Roedd y rhanbarth Ffrengig yn galw am ddiogelwch cryfach ar gyfer gweithwyr, yr amgylchedd ac i ddefnyddwyr.

Fe gawsant yr hyn yr oeddent yn dymuno, a gyda hynny rhoddwyd cydsyniad ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.

Image caption Dywedodd Jeremy Dodeigne bod system Gwlad Belg wedi rhoi "pŵer eithriadol i diriogaeth fach"

"Y rhan fwyaf o'r amser fe fydd y llywodraethau ffederal, y llywodraethau cenedlaethol, yn gyfrifol am berthynas rhyngwladol ac fe fydd y rhanbarth yn gorfod dilyn arweinyddiaeth y llywodraethau ffederal," meddai Jeremy Dodeigne, sy'n astudio gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Namur.

"Yng Ngwlad Belg mae hyn yn hollol wahanol."

Oherwydd y byddai'r fargen rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Chanada yn effeithio ar rai o gyfrifoldebau'r senedd ranbarthol, roedd system Gwlad Belg wedi "rhoi pŵer eithriadol i diriogaeth fach".

'Dyletswydd' i ymyrryd

Ac mae'n bŵer y mae'r senedd yn hapus i'w ddefnyddio unwaith eto yn sgil y fargen Brexit derfynol, yn ôl André Antoine, Llywydd Senedd Wallonia - senedd â 75 o aelodau.

"Fe allwn ni ymyrryd, ac mae gennym ddyletswydd i wneud hynny, ar y llwyfan rhyngwladol, i gadarnhau cytundebau masnach neu beidio.

"Fe fyddwn ni'n dylanwadu ar broses Brexit. Rydym yn difaru ymadawiad Prydain ac mae'n poeni ni oherwydd mai'r Iseldiroedd a Gwlad Belg yw prif bartneriaid Prydain, Cymru, a'r Alban.

"Rydym yn hynod bryderus ac felly ry'n ni'n barod i ymwneud â chwestiwn Brexit."

Image caption Dywedodd André Antoine ei fod yn "difaru ymadawiad Prydain" o'r UE

'Nôl yng Nghymru, y tu allan i'r Cynulliad, mae Megan Mathias o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dweud "yn syml does gennym ni yng Nghymru" yr hawl i gael dweud mewn trafodaethau masnach.

Fe wnaeth hi ysgrifennu papur ymchwil sy'n edrych ar esiampl Wallonia a llywodraethau is-genedlaethol eraill mewn trafodaethau masnach rhyngwladol.

Yn ôl Ms Mathias, Llywodraeth Quebec yng Nghanada yw'r esiampl orau ar gyfer gweinidogion yng Nghaerdydd.

"Yr hyn sy'n amlwg o achos Quebec yw'r gwaith paratoi a'r trafod o flaen llaw wnaethon nhw hyd yn oed cyn iddyn nhw gael sedd wrth y bwrdd.

"Roeddent eisoes yn siarad gyda'r Undeb cyn iddyn nhw gael rôl swyddogol.

"'Sdim ots pa mor gryf yw eich statws economaidd, chi'n un llais ymysg llawer, felly mae'n bwysig iawn i flaenoriaethu," ychwanegodd.

Image caption Mae Carwyn Jones yn dweud ei fod yn "hynod bwysig cyfrannu gymaint â phosib"

Pan ddaw hi i'r cytundeb terfynol, mae prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud y dylai pob un o'r pedair senedd yn y DU gael pleidlais.

Mewn ymgais i ddylanwadu ar y trafodaethau, mae Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad wedi bod yn ôl ac ymlaen i Frwsel yn ystod proses Brexit i lobïo'r UE, ac mae sianelau cyfathrebu ganddyn nhw gyda gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y DU.

Ond mae'r prif weinidog yn credu mai'r "peth gwaethaf a allai ddigwydd fyddai pe bai Llywodraeth y DU yn ceisio gwneud popeth ei hun".

Dywedodd Carwyn Jones: "Mae'n hynod bwysig ein bod ni'n cyfrannu gymaint â phosib. Mae yna fodel ar gyfer hyn.

"Pan oeddwn i'n weinidog materion gwledig, byddai'r gwahanol weinidogion o'r gwahanol lywodraethau'n cwrdd bob mis, byddwn yn penderfynu beth fyddai'r safbwynt ar gyfer cyfarfodydd gweinidogion y Cyngor Ewropeaidd a fyddai'n cymryd lle wythnos neu'n fwy wedi hynny a bu'n gweithio'n dda iawn.

"Yn aml iawn, byddwn i hefyd ym Mrwsel, byddai datblygiadau yn y cyfarfod hwnnw, byddai ysgrifennydd Gwladol DEFRA yn dod allan ac yn gofyn ein barn er mwyn cyrraedd cytundeb, roedd e'n gweithio'n wych.

"Rwy'n credu mai dyma'r ffordd orau ymlaen."

Penderfyniadau allweddol

Yn flaenorol, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddant yn cysylltu'n agos ag ACau a gweinidogion Cymru er mwyn "cyrraedd cytundeb sy'n gweithio i'r DU gyfan".

Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns sy'n cynrychioli'r wlad o gwmpas bwrdd y cabinet yn Downing Street, ac mae'n cymryd rhan mewn rhai o is-bwyllgorau'r llywodraeth ar Brexit, ond nid y grŵp sy'n gwneud y penderfyniadau allweddol.

Fe fydd aelodau seneddol Cymreig hefyd yn cael dweud pan fydd Senedd San Steffan yn cael pleidlais ar y cytundeb Brexit terfynol, sydd ar hyn o bryd yn golygu naill ai rhoi sêl bendith i'r fargen, neu bleidleisio dros adael yr Undeb heb gytundeb.

Ond, am nawr o leiaf, dyw gwleidyddion ym Mae Caerdydd ond yn gallu edrych gyda chenfigen at eu cyd-wleidyddion yn Wallonia pan ddaw hi i gael dweud go iawn ar Brexit.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol