Byrddau'n cytuno ar sefydlu uned drawma yng Nghaerdydd

Ysbyty Athrofaol Image copyright DYLAN MOORE/GEOGRAPH

Mae sefydlu canolfan drawma yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gam yn nes, wedi i chwe bwrdd iechyd gytuno i'r argymhellion.

Mae'n golygu mai yno fydd canolbwynt rhwydwaith drawma newydd fydd yn gwasanaethu'r de a'r canolbarth, gyda'r nod o godi safon gofal i gleifion sydd ag anafiadau difrifol a niferus.

Mewn cyfarfodydd ar wahân ddydd Iau, cytunodd y byrddau iechyd i gefnogi argymhellion penaethiaid iechyd a phanel allanol, oedd eisoes wedi dod i'r casgliad mai Caerdydd ddylai gartrefu'r ganolfan, yn hytrach nag Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Ond byddai gan Dreforys rôl i'w chwarae drwy gael uned drawma fyddai'n helpu i gefnogi'r brif ganolfan yng Nghaerdydd.

Mae BBC Cymru hefyd yn deall y bydd yr arweinydd clinigol ar gyfer rhwydwaith y de wedi ei leoli yn Nhreforys.

Pleidlais

Cefnogodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg y cynnig i leoli'r ganolfan yng Nghaerdydd gyda phleidlais y mwyafrif, wedi i ddau aelod wrthwynebu ac i un arall ymatal.

Roedd rhai gwleidyddion lleol wedi annog y bwrdd iechyd i wrthod y cynllun.

Ond cefnogodd pob aelod o fwrdd Bwrdd Iechyd Bro Morgannwg y syniad.

Mae'r gogledd eisoes yn rhan o rwydwaith drawma gorllewin canolbarth Lloegr, gyda'r uned drawma yn ysbyty Stoke.

Image caption Daeth panel i'r casgliad mai Ysbyty Athrofaol Cymru oedd â'r arbenigedd gorau i drin cleifion difrifol wael

Mae'r trafodaethau ar sefydlu rhwydwaith drawma yn y de wedi bod ar y gweill ers 2014.

Yn gynnar yn y broses, sefydlwyd mai dim ond Caerdydd neu Dreforys oedd â'r gallu i ddarparu gwasanaethau arbenigol prif ganolfan drawma.

Ond daeth panel o arbenigwyr o'r tu allan i Gymru i'r casgliad mai Ysbyty Athrofaol Cymru fyddai'r dewis gorau, yn bennaf oherwydd arbenigedd yr ysbyty i drin oedolion a phlant oedd ag anafiadau pen.

Mae canran uchel o achosion trawma yn cynnwys anafiadau pen.

Marwolaethau diangen

Yn dilyn ymgynghoriad barodd dri mis, cyhoeddodd penaethiaid iechyd eu cefnogaeth i'r casgliadau hynny'r wythnos ddiwethaf.

Fodd bynnag, mae rhai gwleidyddion yn y de orllewin, oedd yn cefnogi cais Treforys, wedi galw ar y Cynulliad i gael y gair olaf ar leoliad y brif ganolfan.

Y de yw'r unig ranbarth o fewn Cymru a Lloegr sydd ddim yn rhan o rwydwaith o ysbytai sy'n arbenigo ar ofal i gleifion ag anafiadau difrifol.

Ers i rwydweithiau trawma gael eu sefydlu yn Lloegr ar ddechrau'r ddegawd, mae cyfraddau goroesi wedi gwella'n sylweddol.

Image copyright ABM
Image caption Bydd gan Ysbyty Treforys rôl i'w chwarae yn y gwasanaeth trawma newydd

Mae meddygon blaenllaw wedi disgrifio'r diffyg yn yr un ddarpariaeth yn y de fel achos embaras, ac enghraifft fod Cymru'n cael ei gadael ar ôl.

Fis Tachwedd diwethaf, dywedodd arbenigwr ar ofal brys wrth BBC Cymru y gallai fod pum person y mis yn marw'n ddiangen heb sefydlu uned drawma.

Rhybuddiodd David Lockey fod "bywydau'n cael eu colli drwy'r amser".

Wedi i'r chwe bwrdd iechyd gymeradwyo'r cynllun, gall y gwaith o sefydlu rhwydwaith drawma nawr fwrw 'mlaen.

Ond mae'n debygol y bydd angen nawdd ychwanegol a chais am gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Straeon perthnasol