Teyrngedau i'r bardd ac awdur Emyr Hywel

Emyr Hywel Image copyright Y Lolfa

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r bardd, awdur ac ymgyrchydd iaith Emyr Hywel, a fu farw yn 72 oed.

Yn un o Flaenporth yng Ngheredigion, bu'n brifathro Ysgol Tregroes am flynyddoedd lawer.

Roedd hefyd yn gyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe gafodd ei garcharu am weithredu gyda'r Gymdeithas yn y 1970au.

Yn fwy diweddar bu'n arweinydd mudiad Cymuned yng Ngheredigion.

Roedd wedi bod yn sâl ers tro.

'Diolch amdano'

Dywedodd un arall o gyn-gadeiryddion y Gymdeithas, Ffred Ffransis, amdano: "Fe ges i'r fraint o ddod yn gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith am flwyddyn yn syth ar ôl i Emyr Hywel fod yn gadeirydd yn 1975.

"Pwyslais Emyr yw mai nad mater o arwyddion a sianeli teledu (er mor bwysig y rhain) yw brwydr dros yr iaith, ond ei bod yn ei hanfod yn frwydr dros ein cymunedau. Bu fyw ei fywyd yn driw i'r ddelfryd honno."

Ar eu cyfrif Twitter, dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Tristwch o glywed am farwolaeth Emyr Hywel. Un a wnaeth gymaint dros y Gymraeg ac ein cymunedau - un a fuodd yn Gadeirydd ar y Gymdeithas ac a fuodd yn y carchar dros yr iaith.

"Pob cydymdeimlad â'i deulu, a diolch amdano."

Un oedd yn aelod amlwg o'r Gymdeithas yn yr un cyfnod ag Emyr Hywel oedd Cen Llwyd. Dywedodd yntau: "Atgofion melys am ddringo mast Moel y Parc a chario arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg drwy strydoedd Caerfyrddin gyda Emyr Hywel.

"Gŵr triw a llawn o ddelfrydau ag argyhoeddiadau dwfn. Heddwch i'w lwch."

Mae Emyr Hywel yn gadael gwraig, Diana, a mab, Gwern.