Caerdydd 3-1 Burton Albion

zohore

Caerdydd 3-1 Burton Albion

Gyda Chaerdydd yn ail o'r brig a Burton Albion yn ail o waelod y bencampwriaeth, roedd hon yn gêm yr oedd disgwyl i'r Adar Gleision ei hennill.

Kenneth Zohore roddodd Caerdydd ar y blaen wedi 16 munud, ond fe gafodd amddiffyn y tîm cartref eu syfrdanu pan ddaeth yr ymwelwyr yn gyfartal bum munud yn ddiweddarach.

Daeth moment allweddol y gêm eiliadau cyn yr egwyl pan rwyddodd Nathaniel Mendez-Laing i roi Caerdydd ar y blaen - amser da i sgorio.

Ar ddechrau'r ail hanner fe rwydodd Caerdydd ddwywaith, ond ni chafodd yr un o'r ddau gynnig eu caniatáu.

Ond yna wedi 64 munud fe sgoriodd Callum Paterson y drydedd i Gaerdydd i sicrhau eu hwythfed buddugoliaeth yn olynol yn y Bencampwriaeth.

Mae lle yn y gemau ailgyfle bron yn sicr i edîm Neil Warnock bellach, ond gyda'r tîm yn chwarae cystal fe fydd yn gobeithio am le yn y ddau uchaf a dyrchafiad awtomatig i'r Uwch Gynghrair y tymor nesaf.