Cynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-1 Boreham Wood

National League Image copyright Getty Images

Collodd Wrecsam am y tro cyntaf mewn 17 o gemau yn y Gynghrair Genedlaethol ddydd Llun wrth i Boreham Wood ennill o 1-0 ar y Cae Ras.

Sgoriodd yr ymwelwyr gyda chic o'r smotyn ar ôl 10 munud o chwarae, gyda Bruno Andrade yn rhwydo ar ôl i'r dyfarnwr gosbi Manny Smith am drosedd.

Aeth tasg Wrecsam yn anoddach fyth ar ddechrau'r ail hanner wrth i Kevin Roberts gael ei yrru o'r cae.

Mae'r golled yn golygu bod y Dreigiau yn disgyn i'r pedwerydd safle, gyda Boreham Wood yn symud uwch eu pennau.