'Martin Luther King yn ymwybodol o'r frwydr iaith yng Nghymru'

MLK
Image caption Roedd Martin Luther King yn areithiwr ac yn ymgyrchydd hawliau sifil

Mae'r wythnos hon yn nodi 50 mlynedd ers marwolaeth un o ffigyrau mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif - Martin Luther King Jr.

Roedd yn bregethwr ac yn ymgyrchydd blaenllaw dros hawliau pobl ddu yn America. Cafodd ei lofruddio ar 4 Ebrill 1968 yn Memphis, Tennessee.

Roedd y Parchedig William Huw Pritchard o Ynys Môn yn weinidog yn yr eglwys Gymraeg yn Detroit am flwyddyn yn 1965-66.

Fel rhan o ddathliadau'r Grawys yno yn 1966, roedd yr eglwysi lleol wedi trefnu wythnos o ddigwyddiadau.

Ymysg y rhai oedd yn cymryd rhan yn un o'r gwasanaethau hynny oedd Martin Luther King.

"Roedd o'n siaradwr huawdl, oedd gyno fo feistrolaeth arbennig ar iaith - roedd gyno fo garisma arbennig yn dod trwodd," meddai William Huw Pritchard wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Y Parchedig William Huw Pritchard yn siarad ar Post Cyntaf

"Aethon ni i'r ysgoldy [wedi'r gwasanaeth] a rhywsut neu'i gilydd mi ffeindish i fy hun yn ei gwmpeini.

"Ma' rhaid ei fod o wedi sylwi nag o'n i'n Americanwr ac mi ofynnodd o le o'n i'n dod ac mi atebish.

"Mi oedd o'n ymwybodol fod gyno' ni frwydr iaith ar droed yng Nghymru.

"Oedd o'n ddyn gwylaidd ac yn ddyn dymunol iawn, iawn. O'n i'n teimlo mod i wedi cael braint fawr o'i gyfarfod o a d'eud y gwir."

Dwy flynedd yn ddiweddarach, roedd Martin Luther King wedi marw.

"Oedd o'i hun wedi sylwi fod ei fywyd o mewn perygl," meddai William Huw Pritchard.

"Doedd dim gymaint â hynny o syndod ond mi roedd 'na dristwch.

"Roedd o'n Gristion gloyw iawn, iawn - un wnaeth weithredu'n Gristnogol iawn ar hyd ei weinidogaeth."