Canfod cyrff dyn a menyw ar lwybr ger Cei Newydd

Arfordir

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi i gyrff dau o bobl gael eu canfod ar lwybr yr arfordir ger Cei Newydd yng Ngheredigion.

Cafodd y cyrff ei canfod tua 20:00 nos Fercher 4 Ebrill, wedi i'r heddlu dderbyn adroddiadau yn gynharach yn y dydd fod dyn a menyw ar goll.

Mae teulu agosaf y ddau wedi cael gwybod.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn trin y marwolaethau fel rhai anesboniadwy ar hyn o bryd, a'u bod yn ymchwilio er mwyn ceisio sefydlu'r amgylchiadau.