Eastleigh 1-1 Wrecsam

Image copyright Getty Images

Eastleigh 1-1 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi syrthio i'r chweched safle wedi gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Eastleigh.

Cic o'r smotyn gan Scott Quigley wnaeth rhoi'r ymwelwyr ar y blaen ar yr hanner.

Yn yr ail hanner fe aeth Eastleigh lawr i 10 ddyn wrth i Andrew Boyce gael ei anfon o'r cae.

Ond er hynny fe ildiodd Y Dreigiau gyda gôl hwyr yn dod i Eastleigh.