Dim camau wedi cwynion am erthygl Rod Liddle am Gymru

Rod Liddle a'r Bont

Mae corff safonau'r cyfryngau wedi gwrthod cwynion yn ymwneud ag erthygl ddadleuol yn y Sunday Times am Gymru a Phont Hafren.

Fe wnaeth Sefydliad Annibynnol Safonau'r Wasg (IPSO) dderbyn bron i 80 o gwynion mewn deuddydd am yr erthygl gan Rod Liddle, oedd yn dweud bod Pont Hafren yn cysylltu Cymru gyda'r "Byd Cyntaf".

Dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts bod yr erthygl yn bychanu'r iaith Gymraeg a gwneud tlodi yng Nghymru'n destun hwyl.

Ond yn eu dyfarniad dywedodd IPSO eu bod ond yn delio â chwynion am ragfarnu a hiliaeth yn ymwneud ag unigolion, nid "grwpiau neu gategorïau o bobl".

Ychwanegodd y corff fod unrhyw honiadau o annog casineb hiliol yn fater i'r heddlu.

'Bychanu'r iaith'

Cafodd yr erthygl ei chyhoeddi yn dilyn penderfyniad a gyhoeddwyd ddydd Gwener gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns i ailenwi ail Bont Hafren ar ôl Tywysog Cymru.

Bellach mae dros 32,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

Yn ei golofn dywedodd Mr Liddle nad oedd enw'r bont o bwys cyn belled â'i bod yn "caniatáu pobl i adael y lle yn syth".

Ychwanegodd y byddai yn well gan y Cymry pe byddai'r bont yn cael ei enwi yn "rhywbeth annealladwy heb eiriau go iawn, fel Ysgythysgymlngwchgwch Bryggy".

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd y penderfyniad i ailenwi'r bont ei gymeradwyo gan y Frenhines a'r prif weinidog

Fe wnaeth hynny ennyn ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai'n cyhuddo'r colofnydd o ragfarn neu hiliaeth yn erbyn Cymru.

Dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts ei fod wedi ceisio "bychanu'r iaith Gymraeg", a "chymharu tlodi Cymru fel rhywbeth chwerthinllyd gyda Lloegr".

Yn ei hymateb hithau dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws fod y "cynnydd yn y sylwadau dilornus am Gymru, y Gymraeg a'i siaradwyr yn peri pryder".

Ychwanegodd Robin Farrar o Gymdeithas yr Iaith: "Mae ymosodiadau fel hyn yn dangos ymagwedd drefedigaethol ddylai fod yn perthyn i'r oes a fu."

'Dim lle i weithredu'

Mewn ymateb ddydd Mawrth i'r cwynion gafodd eu derbyn, fodd bynnag, dywedodd IPSO eu bod wedi adolygu'r mater ac wedi penderfynu nad oedd "yn torri'r cod ymddygiad golygyddol".

Dywedodd y corff eu bod wedi derbyn sawl cwyn yn unol â Chymal 12 ar ragfarnu, gyda chwynion fod yr erthygl yn "sarhaus i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i phobl", neu'n "awgrymu fod Cymru'n israddol i Loegr", ac na fyddai erthygl debyg am grŵp lleiafrifol arall wedi cael ei chyhoeddi.

"Mae'r Cymal hwn wedi'i lunio i amddiffyn unigolion sydd wedi'u crybwyll yn y wasg o ragfarn ar sail hil, lliw, crefydd, rhyw, gogwydd rhywiol neu unrhyw salwch neu anabledd corfforol neu feddyliol. Nid yw'n berthnasol i grwpiau neu gategorïau o bobl," meddai llefarydd.

Ychwanegodd ymateb IPSO eu bod wedi derbyn rhai cwynion nad oedd yr erthygl yn gywir, oherwydd yr honiad nad oedd gan yr iaith Gymraeg unrhyw "lafariaid go iawn".

Image copyright Getty Images
Image caption Bydd yr enw newydd - Pont Tywysog Cymru - yn cael ei ddefnyddio o'r haf ymlaen

Ond dywedodd y corff nad oedd hynny'n torri Cymal 1 y cod, a hynny am "nad oedd yr erthygl wedi bwriadu rhoi gwybodaeth awdurdodol ar ieithyddiaeth; roedd yn ddarn barn, roedd hynny'n glir, ac roedd yr awdur yn mynegi barn bersonol".

Roedd yr un peth yn wir, meddai IPSO, am yr awgrym fod Cymru'n wlad trydydd byd, ble roedd hi'n "glir fod hyn yn gor-ddweud, a ddim yn gamarweiniol".

Dywedodd Nick Harding, un o'r bobl wnaeth gwyno wrth IPSO am yr erthygl, ei fod wedi "siomi" wrth dderbyn eu hymateb.

"Dwi'n deall eu bod nhw wedi penderfynu nad yw'r cod ar ragfarnu wedi ei dorri yn dechnegol gan nad oedd modd iddo fod yn erbyn hil neu genedl, mae'n rhaid iddo fod yn unigolyn," meddai.

"Ond mae cael newyddiadurwr yn disgrifio Cymru fel gwlad trydydd byd a gwatwar ein hiaith genedlaethol yn agored, ac yna cael sêl bendith IPSO, yn rhwbio halen yn y briw."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol