Y Bencampwriaeth: Aston Villa 1-0 Caerdydd

Jack Grealis Image copyright Getty Images
Image caption Foli wych Jack Grealish o 20 llath oedd unig gôl y gêm

Mae Caerdydd wedi disgyn o'r safleoedd dyrchafiad yn y Bencampwriaeth ar ôl colli yn Aston Villa nos Fawrth.

Er mai'r tîm cartref oedd yn rheoli'r gêm, yr Adar Gleision gafodd y cyfleoedd gorau, ond doedden nhw ddim yn gallu manteisio ar hynny.

Daeth yr unig gôl o droed dde Jack Grealish gyda phum munud yn weddill, gyda'i foli o 20 llath yn taro'r postyn ar ei ffordd i'r rhwyd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn disgyn i'r trydydd safle yn y gynghrair, gyda Fulham yn codi i ail ar ôl trechu Reading.

Er hynny, pedair gêm sydd gan Fulham ar ôl i'w chwarae, tra bod gan y Cymry bum gêm yn weddill.