Apêl wedi ymosodiad 'difrifol' ym Mhenarth

Ymosodiad Penarth Image copyright Google Maps
Image caption Digwyddodd yr ymosodiad ar Wordsworth Avenue ym Mhenarth nos Fercher

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad difrifol ym Mhenarth, pan gafodd bachgen yn ei arddegau anafiadau difrifol.

Digwyddodd yr ymosodiad ar Wordsworth Avenue yn y dre tua 23:00 nos Fercher 11 Ebrill.

Aed â'r bachgen 17 oed i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w wyneb a'i gefn, ond dyw hi ddim yn ymddangos bod ei fywyd mewn perygl.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Terry Hopkins: "Rydym yn apelio ar unrhyw un welodd yr ymosodiad neu a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal i gysylltu â ni.

"Rydym yn gwybod fod llawer o bobl yn yr ardal ar adeg y digwyddiad, ac rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth - dim ots pa mor fach - i gysylltu â ni."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 a dyfynu'r cyfeirnod 1900126058.