Y Bencampwriaeth: Norwich 0-2 Caerdydd

Gary Madine yn brwydro am y bêl Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth buddugoliaeth, diolch i ddwy gôl hwyr yn Carrow Road, sicrhau fod Caerdydd yn parhau i bwyso am ddyrchafiad awtomatig i'r Uwch Gynghrair.

Gôl gan yr eilydd Kenneth Zohore wnaeth roi Caerdydd ar y blaen ar ôl iddynt golli eu dwy gêm ddiwethaf.

Ergyd wych gan Junior Hoilett yn yr amser sy'n cael ei ganiatáu am anafiadau wnaeth selio'r fuddugoliaeth.

Yn yr hanner cyntaf fe wnaeth Norwich daro'r postyn, gyda Criag Bryson yn dod yn agos i Gaerdydd.

Mae'r fuddugoliaeth yn rhoi hwb o'r newydd i ymdrechion Caerdydd ar ôl iddynt golli i Wolves, er gwaetha iddynt fethu dwy gic o'r smotyn, ac yna i gôl hwyr oddi cartref yn Aston Villa.

Golygai'r canlyniad fod Caerdydd yn codi i'r ail safle ar ôl i Fulham orfod bodloni ar gêm gyfartal yn erbyn Brentford nos Sadwrn.

Pynciau Cysylltiedig